Myfanwy

Joseph Parry * Track #1 On Myfanwy

Download "Myfanwy"

Myfanwy by Joseph Parry

Performed by
Joseph Parry

Myfanwy Lyrics

[Verse 1]
Paham mae dicter, O Myfanwy
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?

[Verse 2]
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy
Heb gael dy galon gyda hi

[Verse 3]
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, 'ngeneth ddel
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél"

Myfanwy Q&A

Who wrote Myfanwy's ?

Myfanwy was written by Joseph Parry.

Your Gateway to High-Quality MP3, FLAC and Lyrics
DownloadMP3FLAC.com