[Geiriau i "Pan Ddaw Yfory"]
Neithiwr wrth dy ymyl
Doedd amser ddim yn bod
Bod efo'n gilydd oedd yn bwysig
A chariad oedd y nod
Ond heno tyrd i 'mreichiau
Cyn i ni dynnu'r llen
A gad i ni obeithio
Na ddaw'r noson fyth i ben
Ond pan ddaw yfory
Rhaid dweud ffarwél
A rhoi pob dim yn ôl
Yn ôl i'r gorffenol, a Duw a wŷr
Pwy oedd fwya ffôl
Gwn ai camgymeriad
Oedd gafael ynot ti
Ac fe wyddon ni o'r cychwyn
Nad oedd gwawr i'n cariad ni
A phan ddaw yfory
Rhaid dweud ffarwél
A rhoi pob dim yn ôl
Yn ôl i'r gorffenol, a Duw a wŷr
Pwy oedd fwya ffôl
Hwn yw'r heno olaf
Cyn hir fe dŷr y wawr
Felly rho i'n dy dynerwch
I machlud ni sy'n awr
A phan ddaw yfory
Paid dweud ffarwél
A rhoi pob dim yn ôl
Yn ôl i'r gorffenol, a Duw a wŷr
Pwy oedd fwya ffôl
Pwy oedd fwya ffôl
Caryl Parry Jones released Pan Ddaw Yfory on Sun Jan 01 2006.